National Star yng Nghymru
Ymunwch â’n diwrnod agored
Ymwelwch â ni ddydd Iau 9 Mawrth, 10am tan 3pm i ddarganfod amrywiaeth o gyfleoedd dysgu cyffrous yn National Star ym Mamhilad. Dewch i gwrdd â’r staff, mynd ar daith a chymryd rhan weithredol mewn amrywiaeth o weithgareddau rhyngweithiol. RSVP heddiw i mamhiladevents@nationalstar.org.
Gallwch hefyd drefnu ymweld ar adeg arall sy’n addas i chi drwy e-bostio’r tîm Derbyn: admissions@nationalstar.org neu ffonio 01495 367023 / 01242 534928.
National Star ym Mamhilad
Lansiodd National Star ei ddarpariaeth addysgol gyntaf ym Mamhilad, Tor-faen, ym mis Medi 2016. Cafodd ei chynllunio ar gyfer pobl ifanc ag anableddau cymhleth ac anawsterau dysgu a chorfforol lluosog, gan gynnig cwricwlwm synhwyraidd seiliedig a lefel uchel o ofal a chefnogaeth.
Y Cwricwlwm
Caiff ein cwricwlwm ei addasu’n unigol i bob dysgwr gan ganolbwyntio ar ddatblygu annibyniaeth, sgiliau bywyd, sgiliau cyfathrebu / cymdeithasol a pharatoi ar gyfer bywyd ar ôl coleg. Gall rhaglenni unigolyddol gynnwys celfyddydau creadigol (celf, cerddoriaeth, TG, ffotograffiaeth ac aml-gyfryngol), garddwriaethol, coginio, straeon synhwyraidd a hamdden a chymwysterau achrededig.
Mae diwylliant Cymru a’r iaith Gymraeg yn ffurfio rhan allweddol o’r rhaglen ac yn cynnwys llythrennedd, rhifedd a TG.
Cefnogaeth Unigolyddol
Mae gan bawb eu galluoedd a’u gofynion gwahanol a byddwn yn gweithio gyda chi i greu rhaglenni sy’n diwallu’ch anghenion a’ch nodau. Bydd ein tîm profiadol o staff yn eich cefnogi bob cam o’r daith i ddatblygu’r sgiliau a’r diddordebau sy’n bwysig i chi. Bydd eich tiwtor personol wrth law i sicrhau eich bod yn gallu cael y gorau posibl allan o fywyd yn y coleg.
Mae ein hamgylchedd yn hyrwyddo dysgu a gaiff ei arwain gan ddiddordeb, agweddau synhwyraidd a chefnogaeth therapiwtig arbenigol i sicrhau fod anghenion unigol yn cael eu diwallu’n llwyr.
Mae National Star ym Mamhilad yn cydnabod fod cael yr allwedd sy’n galluogi pontio llwyddiannus i fywyd oedolyn yn orfodol er mwyn cael perthynas â rhieni, gofalwyr, gwarcheidwaid a sefydliadau statudol, tra bo agwedd sy’n canolbwyntio ar y person yn cael ei hyrwyddo bob tro.
Cyfleusterau arbenigol
Ymhlith y cyfleusterau sy’n cael eu cynnig ym Mamhilad mae:
- Ystafell ddosbarth synhwyraidd
- Ystafell ddosbarth TG
- Cegin sgiliau bywyd
- Ystafelloedd gofal personol
- Mynediad cymunedol
- Gardd synhwyraidd (yn dod yn y Gwanwyn 2017)
Darganfod rhagor
Am ragor o wybodaeth am National Star ym Mamhilad cysylltwch â’n tîm Derbyn ar admissions@nationalstar.org neu ar 01242 534928 / 01495 367023.